Cwynodd Mrs P na wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor”) ystyried yr holl ffactorau perthnasol yn briodol cyn iddo benderfynu adennill Grant Cyfleusterau i Bobl Anabl yn llawn. Cwynodd hefyd na wnaeth y Cyngor esbonio ei benderfyniad yn iawn na rhoi sylw priodol i’w datganiadau nad oedd gan y Cyngor ddealltwriaeth ddigonol o’r dirywiad yn ei hiechyd hi, ac iechyd ei gŵr, a’r newidiadau yn eu hanghenion gofal o ganlyniad i hynny.
Ni chanfu’r Ombwdsmon dystiolaeth bod yr amgylchiadau mewn perthynas ag iechyd a llesiant Mr a Mrs P wedi cael eu hystyried yn briodol, yn arbennig y goblygiadau i iechyd a llesiant Mrs P a’i gallu i aros yn yr eiddo yn ddiogel, o ystyried na allai Mr P roi gofal iddi mwyach. Yn ogystal â hynny, ni wnaeth y Cyngor esbonio’n ddigonol pam nad oedd o’r farn bod yr amgylchiadau hynny’n sail dros eithrio rhag ad-dalu, a dim ond at galedi ariannol y cyfeiriodd. Roedd y methiannau hyn yn gyfystyr â chamweinyddu, gan achosi straen a dryswch i’r cwpl, a oedd yn teimlo bod eu hamgylchiadau’n cael eu diystyru a’u hanwybyddu’n annheg.
Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro am y camweinyddu a ganfuwyd ac i gynnal adolygiad o’i benderfyniad ynghylch eithrio Mr a Mrs P rhag ad-dalu, gan gyfeirio’n benodol at iechyd a llesiant. Cytunodd hefyd i atgoffa’r staff perthnasol o bwysigrwydd sicrhau y caiff amodau grantiau eu hesbonio’n llawn, yn ogystal ag ystyried a dogfennu’r holl amgylchiadau perthnasol wrth wneud ac esbonio penderfyniadau i adennill arian grant. Cytunodd i wneud y pethau hyn o fewn mis.