Dyddiad yr Adroddiad

12/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202401405

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A ar ran ei chleient a oedd yn anfodlon ar ymateb Cyngor Sir Ceredigion i gŵyn Cam 2. Dywedodd fod ei chleient yn pryderu am rywfaint o’r wybodaeth yn adroddiad y Cyngor a’r ffordd y cyfathrebwyd ag ef. Roedd ei chleient hefyd yn anfodlon ar rywfaint o’r geiriad a ddefnyddiwyd ac roedd am gael eglurder ynghylch rhai o’r esboniadau roedd y Cyngor wedi’u rhoi.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cynnig cyfle i gleient Ms A drafod cynnwys ei ymateb, yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) (2014). Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymddiheuro i gleient Ms A a chynnig cyfle i gwrdd er mwyn trafod cynnwys yr ymateb i’r gŵyn, a hynny o fewn 10 diwrnod, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.