Dyddiad yr Adroddiad

02/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202402167

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ei atgyfeirio am sgan CT o’i ben, sef rhywbeth a drafodwyd yn ystod apwyntiad gyda’r Nyrs Seiciatrig Gymunedol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi esbonio’n glir i Mr B, yn dilyn ei apwyntiad gyda Nyrs Seiciatrig Gymunedol, nad oedd yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl Haen 2. Arweiniodd hyn at ddryswch ynghylch sut y gallai gael sgan CT. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr B am beidio â chyfathrebu’n glir ag ef yn dilyn yr asesiad, ac amlinellu unrhyw wersi a ddysgwyd er mwyn sicrhau y bydd llythyrau’n cyfleu’n glir pwy sy’n gyfrifol am unrhyw atgyfeiriadau ymlaen a drafodwyd, a hynny o fewn 30 diwrnod gwaith, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.