Dyddiad yr Adroddiad

19/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202402704

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwrthod ymchwilio i’w gŵyn yn ymwneud â phryderon diogelu.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod y Cyngor wedi atgyfeirio’r materion yn briodol at y Tîm Diogelu, ond nad oedd wedi ymateb i gŵyn Mr A ynglŷn â pheidio â chymryd camau priodol mewn ymateb i’w bryderon, ac oedi a oedd wedi digwydd, dros y flwyddyn ddiwethaf. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymddiheuro i Mr A, cydnabod ei gŵyn, cynnig cyfle iddo drafod ei bryderon, a rhoi ymateb yn unol â Pholisi Cwynion Corfforaethol y Cyngor, a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.