Cwynodd Mr A ei fod yn anfodlon ar gamau gweithredu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (“y Cyngor”) a’r ffordd yr ymdriniodd â chwynion ynglŷn â chais cynllunio cyfagos. Dywedodd Mr A fod y datblygiad wedi cael effaith negyddol arno.
Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cydnabod cwyn Mr A nac ymateb iddi. Cydnabu fod hyn wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Mr A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor gydnabod cwyn Mr A ac ymateb iddi o fewn mis, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.