Cwynodd Mr A am ei fod yn anfodlon ar ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’w gŵyn. Roedd hefyd yn anfodlon am nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i ohebiaeth bellach.
Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn yn rhesymol. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn pryderu nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb i ohebiaeth Mr A ar 17, 26 a 27 Mehefin 2024.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymddiheuro i Mr A a rhoi ymatebion iddo i’w ohebiaeth, a hynny o fewn 20 diwrnod gwaith, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.