Cwynodd Mr X fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi caniatáu i’w gymdogion adeiladu garejis a dreifiau ar dir y Cyngor yn rhad ac am ddim er y bu’n rhaid iddo ef dalu 14 mlynedd yn ôl ar gyfer yr un darn o dir.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad na wnaeth y Cyngor ymateb i gŵyn Mr X, a wnaed ym mis Tachwedd 2023, yn unol â’i broses gwyno. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymddiheuro am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd, ymateb i’r gŵyn o fewn wythnos, a chynnig taliad amser a thrafferth o £75, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.