Dyddiad yr Adroddiad

23/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Materion cynllunio arall

Cyfeirnod Achos

202403554

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X na wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ymateb i’w gŵyn ynghylch camau gorfodi anfoddhaol a defnydd anawdurdodedig o dir.

 

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi bod mewn cysylltiad â Mr X, na chafodd ei bryderon eu cofnodi fel cwyn ffurfiol.  Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Mr X yn rhoi ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi a’r methiant i gofnodi ei gŵyn, a chynnig talu £100 i wneud iawn am yr oedi ac am yr amser a’r drafferth a gymerodd i wneud cwyn i’r Ombwdsmon, a hynny o fewn pythefnos, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.   Cytunodd y Cyngor hefyd i roi ei ymateb Cam 2 o fewn pedair wythnos.