Cwynodd Miss B na wnaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ymateb i’w chŵyn, gan beri iddi deimlo ei bod yn cael ei hanwybyddu.
Canfu’r Ombwdsmon fod Miss B wedi cwyno wrth y Bwrdd Iechyd ond na chafodd ymateb o fewn cyfnod rhesymol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ymateb i’r gŵyn, ymddiheuro am yr oedi a’r anghyfleustra a achoswyd, a gwneud taliad o £150 (o fewn chwe wythnos) i wneud iawn am yr oedi a’r angen i gysylltu â’r Ombwdsmon, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.