Dyddiad yr Adroddiad

04/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202403579

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr a Mrs X na wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roi ymateb pellach iddynt ar ôl i’w cwyn gael ei huwchgyfeirio.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr a Mrs X wedi gohebu â’r Cyngor yn dilyn ei ymateb i gŵyn Cam 1 a bod y Cyngor wedi cytuno i roi ymateb pellach i Mr a Mrs X. Fodd bynnag, dywedodd nad oedd yn credu y byddai Mr a Mrs X yn fodlon ar unrhyw ymateb pellach ac y dylai fod wedi uwchgyfeirio eu cwyn i Gam 2. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi arwain at oedi ac wedi achosi rhwystredigaeth i Mr a Mrs X, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor roi ei ymateb pellach ac, os bydd Mr a Mrs X yn anfodlon ar yr ymateb, uwchgyfeirio’r gŵyn i Gam 2 o fewn pythefnos, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny. Bydd yr ymateb hefyd yn cynnig ymddiheuriad am yr oedi ac am beidio â rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf. Cytunodd y Cyngor hefyd i gynnig £150 yn gydnabyddiaeth am yr oedi, am beidio â rhannu’r wybodaeth ddiweddaraf ac am yr amser a’r drafferth a gymerodd i Mr a Mrs X gwyno wrth yr Ombwdsmon.