Dyddiad yr Adroddiad

17/09/2024

Achos yn Erbyn

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202403655

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr T na wnaeth Tai Cymoedd i’r Arfordir ddelio â rhwystr, gan arwain at lifogydd ar lawr gwaelod eiddo Mr T.

Canfu’r Ombwdsmon fod Mr T wedi mynegi ei bryderon ac, er bod y Gymdeithas Dai wedi ceisio delio â’r mater, na chafodd y broblem ei datrys, gan beri i Mr T roi gwybod am y llifogydd eto, a achosodd rwystredigaeth i Mr T.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.  Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas ymddiheuro i Mr T ac esbonio’r hyn a ddigwyddodd, a chytunodd y Gymdeithas i wneud hynny.  Cytunodd y Gymdeithas hefyd i sicrhau y caiff y gwaith ei gwblhau erbyn diwedd mis Medi 2024, a chynnig taliad o £50 i Mr T i wneud iawn am yr amser a’r drafferth a gymerodd i gysylltu â’r Ombwdsmon.