Dyddiad yr Adroddiad

16/09/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Clwyd Alyn

Pwnc

Anghydfodau cymydog ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

Cyfeirnod Achos

202403810

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X na wnaeth Cymdeithas Tai Clwyd Alyn osod cewyll dros gamerâu teledu cylch cyfyng yn dilyn cwyn i’r Gymdeithas am ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chymydog.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Gymdeithas wedi ymateb yn briodol i gŵyn Mrs X am ymddygiad gwrthgymdeithasol ei chymdogion; fodd bynnag, nid oedd wedi gosod cewyll dros y camerâu teledu cylch cyfyng yn brydlon oherwydd problemau gyda chyflenwyr. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi arwain at oedi ac wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs X, a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Gymdeithas ysgrifennu at Mrs X o fewn pythefnos yn rhoi ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi cyn gosod y cewyll ac am y gamwybodaeth a roddwyd yn yr ymateb i gŵyn Cam 2, a chytunodd y Gymdeithas i wneud hynny. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i osod cewyll dros y camerâu teledu cylch cyfyng, a bydd yn cynnig hyd at £500 o iawndal ariannol i Mrs A tuag at gost unrhyw waith atgyweirio i’w char.