Dyddiad yr Adroddiad

27/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Tai

Cyfeirnod Achos

202403856

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms N na wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ymateb i gŵyn a godwyd ganddi ym mis Rhagfyr 2023.

Canfu’r Ombwdsmon oedi sylweddol cyn i’r Cyngor ymateb. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth, anghyfleustra ac ansicrwydd ychwanegol i Ms N. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymateb i’r gŵyn o fewn pythefnos, gan gynnwys ymddiheuriad a chynnig £100 am yr oedi, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny.