Dyddiad yr Adroddiad

25/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Casgliad ysbwriel. Gwaredu gwastraff ac ailgylchu

Cyfeirnod Achos

202403944

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Q fod Cyngor Caerdydd wedi colli amryw gasgliadau gwastraff bwyd. Cwynodd hefyd na wnaeth y Cyngor gyfathrebu’n effeithiol ag ef.

Canfu’r Ombwdsmon na wnaeth y Cyngor roi ymateb llawn a manwl ynglŷn â’r hyn a aeth o’i le gyda’r casgliadau a’i fod wedi rhoi gwybodaeth anghywir i Mr Q. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Mr Q. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ysgrifennu at Mr Q, o fewn wythnos, yn ymddiheuro am y wybodaeth anghywir ac yn esbonio beth aeth o’i le gyda’r casgliadau. Cytunodd y Cyngor hefyd i atgoffa’r Goruchwylydd Casgliadau a Glanhau o’r angen i gasglu’r holl sbwriel/gwastraff a monitro’r casgliadau am dri mis.