. Cwynodd Mr X na wnaeth Cyngor Sir y Fflint ddatrys problem tagfeydd traffig parhaus, gan arwain at lefelau annerbyniol o lygredd aer a sŵn, o ganlyniad i newid trefn goleuadau traffig y tu allan i gartref Mr X.
Penderfynodd yr Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr X ar Gam 1 proses gwyno fewnol y Cyngor, na roddodd wybod i Mr X am ei hawl i uwchgyfeirio ei gŵyn i Gam 2 pe na bai’n datrys y mater i’w foddhad. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hyn wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Mr X, ac wedi golygu y bu’n rhaid iddo gysylltu â’r Ombwdsmon yn gynamserol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Cyngor ymddiheuro i Mr X am ei esgeulustod, a rhoi gwybod i Mr X am ei hawl i uwchgyfeirio’r gŵyn pe na bai’n datrys y gŵyn i’w foddhad, a chytunodd y Cyngor i wneud hynny. Cytunodd hefyd i ystyried cynnal cyfarfod gyda Mr X i drafod ffordd o unioni ei gŵyn (o fewn tair wythnos).