Dyddiad yr Adroddiad

25/09/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202404298

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X na wnaeth ymateb Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda i’w chŵyn fynd i’r afael â’i phryderon.

 

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cytuno i ailymchwilio i gŵyn Mrs X, ond na roddodd ymateb iddi i’r gŵyn.  Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms X. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

 

Gofynnodd yr Ombwdsmon i’r Bwrdd Iechyd ysgrifennu at Mrs X yn rhoi ymddiheuriad ac esboniad am yr oedi, ac ymateb i’r gŵyn o fewn pedair wythnos, a chytunodd y Bwrdd Iechyd i wneud hynny.