Dyddiad yr Adroddiad

22/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llandeilo Bertholau

Pwnc

Uniondeb

Cyfeirnod Achos

202206450

Canlyniad

Dim tystiolaeth o dorri’r Cod

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llandeilo Bertholau (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod Ymddygiad”).  Honnwyd bod yr Aelod wedi gweithredu mewn modd rhwystrol mewn perthynas â chyllid y Cyngor er mwyn ceisio atal gallu’r Cyngor i weithredu.

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion perthnasol a negeseuon e-bost.   Cafwyd tystiolaeth gan dystion.  Cyfwelwyd â’r Aelod hefyd.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr Aelod wedi gwrthod arwyddo sieciau gwag a gofynnodd am ragor o wybodaeth ac anfonebau yn ymwneud â materion ariannol.  Nododd yr Ombwdsmon fod gan Aelodau ddyletswydd i weithredu er budd y cyhoedd yn unol â’r egwyddor o Stiwardiaeth a pharagraff 7(b) o’r Cod sy’n gosod dyletswydd arnynt i beidio â defnyddio adnoddau eu Cyngor yn annoeth, yn groes i ofynion eu hawdurdod neu’n anghyfreithlon.  Roedd o’r farn felly nad oedd yn briodol i’r Aelod arwyddo sieciau gwag heb weld tystiolaeth bod treuliau rhesymol wedi’u hysgwyddo.  Canfu’r Ombwdsmon fod rheswm yr Aelod dros beidio â llofnodi sieciau gwag yn ymddangos yn rhesymol ac nid oedd yn ystyried bod tystiolaeth o dorri paragraff 7(b)(iv) o’r Cod.

Wedi dweud hynny, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod tystiolaeth o fethiant yn y cyfathrebu a’r berthynas rhwng yr Achwynydd a’r Aelod.  Cymerodd yr Aelod ran mewn sgyrsiau hir a dadleuol am gyfrif banc y Cyngor.  Roedd yn ymddangos na cheisiodd yr Aelod ddatrys y materion na gweithio gyda’r Achwynydd i alluogi trosglwyddiad esmwyth i lofnodwyr newydd ar gyfer cyfrif banc y Cyngor.  Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai’r mater fod wedi cael ei drin mewn modd mwy cynhyrchiol.

Canfu’r Ombwdsmon, o dan Adran 69(4)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, nad oedd tystiolaeth bod yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r Cod.

Er na chanfu’r Ombwdsmon unrhyw dystiolaeth o dorri’r Cod, ac er mwyn osgoi cynnydd tebyg o ran materion yn y dyfodol, gwnaeth atgoffa’r Cyngor y gellid ceisio cyngor gan y Swyddogion Monitro ac y dylid mynd i’r afael â phryderon trwy’r sianelau a’r gweithdrefnau lleol priodol.