Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”).
Honnir bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn ystod cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Chwefror ac 8 Mawrth 2023, yn ystod eitemau agenda sy’n ymwneud â chyllideb y Cyngor a phenderfyniadau ynghylch cyllid i ysgolion. Honnwyd y dylai’r Aelod fod wedi datgan buddiant yn y cyfarfodydd hyn gan y gallai’r penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud fod wedi effeithio ar ei chyflogaeth. Honnwyd hefyd bod yr Aelod wedi methu â datgan ei chyflogaeth ar ei chofrestr buddiannau.
Ymdriniwyd â’r mater yn wreiddiol o dan Brotocol Datrysiad Lleol y Cyngor (“LRP”). Mae LRPs yn anffurfiol ac nid oes sail statudol iddynt. Eu bwriad yw delio â chwynion lefel isel a dibwys rhwng aelodau. Gan fod hon yn gŵyn yn ymwneud â methiant i ddatgelu buddiannau, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd yn briodol i’w hystyried o dan LRP y Cyngor ac na ddylai fod wedi’i rhoi gerbron y Pwyllgor Safonau yn y modd yr oedd.
Felly ymchwiliodd yr Ombwdsmon i’r gŵyn a daeth i’w chanfyddiad ei hun ar y mater hwn, yn unol â’r pwerau a roddwyd iddi o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000. Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor, gan gynnwys cofnodion perthnasol cyfarfodydd ac adroddiadau. Cyfwelwyd yr achwynydd fel rhan o’r ymchwiliad a chafwyd gwybodaeth gan gyflogwr yr Aelod.
Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon mai’r Aelod oedd Aelod Cabinet y Cyngor â chyfrifoldeb am Addysg. Roedd yr Aelod wedi cofnodi ei chyflogaeth ar ei chofrestr buddiannau, yn unol â’r Cod. Roedd cyflogaeth yr Aelod o fewn maes Addysg ac roedd yn golygu cydgysylltu swyddi cyflenwi asiantaethau ar draws sawl maes, gan gynnwys Merthyr Tudful. Ni ddatganodd yr Aelod fuddiant personol na fuddiant sy’n rhagfarnu yn ystod cyfarfodydd y Cyngor a gynhaliwyd ar 27 Chwefror ac 8 Mawrth 2023. Ystyriwyd, ar ôl pwyso a mesur, bod cyflogaeth yr Aelod, o’i hystyried yn wrthrychol, yn golygu bod ganddi fuddiant sy’n rhagfarnu yn y mater o gyllido ysgolion ac y dylai fod wedi datgan ei buddiant yn ystod y cyfarfodydd hynny a bod ei methiant i wneud hynny yn achos o dorri’r Cod.
Pe bai’r Aelod wedi datgan buddiant personol a buddiant sy’n rhagfarnu yn ystod y cyfarfod ar 8 Mawrth, efallai na fyddai’r cynnig wedi’i basio. Fodd bynnag, roedd ei phleidlais yn annhebygol o fod o fudd iddi’n bersonol ac o’r herwydd nid oedd y dystiolaeth yn awgrymu bod ei methiant i adael y drafodaeth a’r bleidlais yn ymgais fwriadol i ddylanwadu ar y bleidlais. Derbyniodd yr Ombwdsmon esboniad yr Aelod nad oedd wedi cydnabod bod angen datgan buddiant.
Derbyniodd yr Aelod, o edrych yn ôl, fod ganddi fuddiant yn y mater a’i bod wedi cymryd camau unioni i sicrhau ei bod yn deall gofynion y Cod ac yn cymhwyso buddiannau’n briodol yn y dyfodol. Mae hyn yn dangos ei hymrwymiad i gadw at ofynion y Cod a dylai atal digwyddiad tebyg yn y dyfodol. Nodwyd hefyd bod yr Aelod wedi cydweithredu’n llawn â’r ymchwiliad. Am y rhesymau hyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn nad oedd cyfeirio’r mater hwn at y Pwyllgor Safonau neu Banel Dyfarnu Cymru er budd y cyhoedd, gan nad oedd sancsiwn yn debygol o gael ei roi. Canfyddiad yr Ombwdsmon felly oedd nad oedd angen cymryd unrhyw gamau mewn perthynas â’r materion yr ymchwiliwyd iddynt.