Dyddiad yr Adroddiad

26/09/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr/Cyngor Tref Porthcawl

Pwnc

Datgelu a chofrestru buddiannau

Cyfeirnod Achos

202307277/202307318

Canlyniad

Dim angen gweithredu

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (“y Cyngor Sir”) a Chyngor Tref Porthcawl (“y Cyngor Tref”) wedi torri’r Cod Ymddygiad (“y Cod”) drwy fethu â datgan buddiant.  Honnwyd bod yr Aelod wedi methu â datgan buddiant personol a / neu fuddiant sy’n rhagfarnu mewn 3 chyfarfod llawn o’r Cyngor Tref lle cytunwyd ar gamau gweithredu mewn perthynas â chymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad.

 

Mae’r Cod, ym mharagraff 11(1), yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau ddatgan buddiannau personol.  Ym mharagraff 12, mae’r Cod yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau ystyried a allai buddiant personol hefyd fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu.  Rhaid i aelod ystyried a fyddai aelod o’r cyhoedd, a fyddai’n gwybod yr holl ffeithiau perthnasol, yn meddwl bod y buddiant personol mor arwyddocaol fel y byddai’n debygol o niweidio barn yr aelod.

 

Mae paragraff 12(2)(a)(i) yn dweud fod eithriad rhag datgan buddiant sy’n rhagfarnu mewn unrhyw fusnes lle mae’n ymwneud ag awdurdod perthnasol arall y maent yn aelod ohono.  Fodd bynnag, mae paragraff 12(3) yn dweud nad yw’r eithriad yn gymwys pan fo’r busnes yn ymwneud â dyfarnu ar unrhyw gymeradwyaeth, cydsyniad, trwydded, caniatâd neu gofrestriad.

 

Cafwyd gwybodaeth gan y Cyngor Sir a’r Cyngor Tref, gan gynnwys negeseuon e-bost, cofnodion cyfarfodydd a dogfennau’n ymwneud â Griffin Park.  Darparodd yr Aelod a’r Achwynydd wybodaeth trwy e-bost a siaradodd hefyd dros y ffôn â’r Swyddog Ymchwilio.

 

Nododd yr Ombwdsmon fod agenda a chofnodion y 3 chyfarfod yn dangos bod eitemau ar yr agenda yn ymwneud â chymeradwyaeth i fwrw ymlaen â throsglwyddiad, terfynu prydles ac adnewyddu prydles.  Roedd hwn yn awgrymu nad oedd eithriad o dan baragraff 12(2)(a)(i) yn gymwys ar gyfer yr eitemau hyn ac y dylai’r Aelod fod wedi datgan buddiant sy’n rhagfarnu.  Ni wnaeth yr Aelod.  Ni ddatganodd yr Aelod fuddiant personol ychwaith ar gyfer 1 o’r eitemau hyn.

Roedd cofnodion y cyfarfod yn cofnodi bod yr Aelod wedi aros yn yr ystafell ar gyfer yr eitemau a’i bod hi hefyd wedi pleidleisio ar 1 ohonynt ac wedi ymatal ar un arall.  Roedd hyn yn awgrymu torri paragraff 14(1)(a) sy’n dweud y dylai aelod adael yr ystafell lle mae ganddo fuddiant sy’n rhagfarnu a pharagraff 14(1)(c) sy’n dweud na ddylai aelod â buddiant sy’n rhagfarnu geisio dylanwadu ar benderfyniad.

 

Nododd yr Ombwdsmon nad oedd yr eitemau eraill ar yr agenda yn awgrymu torri’r Cod.  Roedd y dystiolaeth yn awgrymu naill ai nad oedd y busnes dan sylw wedi’i ddal gan y bwriad y tu ôl i baragraff 12(3) neu nad oedd y pwnc dan sylw yn ymwneud â chymeradwyaeth, caniatâd, trwydded, caniatâd neu gofrestriad.  Roedd hyn yn awgrymu bod yr eithriad o dan baragraff 12(2)(a)(i) felly yn berthnasol.

 

Mae’r Ombwdsmon o’r farn bod gweithredoedd yr Aelod yn awgrymu torri paragraffau 11(1), 14(1)(a) a 14(1)(c).  Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r Ombwdsmon hefyd ystyried a oes angen atgyfeiriad er budd y cyhoedd.

 

Cydnabu’r Ombwdsmon fod y gweithredoedd a’r digwyddiadau y cwynwyd amdanynt wedi achosi pryder i’r Achwynydd a bod gan y digwyddiad, yn gyffredinol, y potensial i effeithio ar enw da’r Cyngor.  Fodd bynnag, nid oedd y materion yn hawdd eu deall, gan gynnwys a allai eithriad fod yn berthnasol.

 

Nododd yr Ombwdsmon hefyd mai dim ond amser byr y bu’r Aelod yn ei rôl pan gynhaliwyd y cyfarfod cyntaf a’i fod yn dal yn gymharol newydd ar adeg y 2 gyfarfod arall.  Pleidleisiodd yr Aelod ar 1 eitem ac ymataliodd ar eitem arall.  Roedd y cofnodion yn nodi bod y niferoedd pleidleisio yn golygu na chafodd yr Aelod a bleidleisiodd effaith sylweddol ar ganlyniad y bleidlais.

 

Yn ystod yr ymchwiliad, cydnabu’r Aelod fod ganddi fuddiant personol ym mhob un o’r eitemau a ystyriwyd fel rhan o’r ymchwiliad hwn.  Roedd hi hefyd i’w gweld yn deall yr angen i ddatgan buddiant personol a gwnaeth hynny ar gyfer pob un ond 1 o’r eitemau.  Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod diffyg ymwybyddiaeth y gallai fod angen datgan buddiant sy’n rhagfarnu hefyd.  Datganodd yr Aelod fwriad i geisio arweiniad pellach.

O ystyried effaith gyfyngedig gweithredoedd yr Aelod ar y materion dan sylw, ei bod wedi myfyrio ar hyn ac nad oes unrhyw ffactorau gwaethygol amlwg, nid yw’r Ombwdsmon o’r farn bod cymryd unrhyw gamau pellach er budd y cyhoedd.  Fodd bynnag, mae’r Ombwdsmon yn argymell bod y Cyngor Sir a’r Cyngor Tref yn trefnu hyfforddiant i’r aelod ar y Côd, yn enwedig mewn perthynas â buddiannau personol a buddiant sy’n rhagfarnu, cyn gynted â phosibl.