Cwynodd Mrs A am briodoldeb y driniaeth a gafodd ar gyfer ei symptomau gan y Gwasanaeth Asesu a Thrin Cyhyrysgerbydol Clinigol (“CMATS”) / ffisiotherapi. Cyfeiriodd at y ffaith nad oedd sgan MRI wedi cael ei gynnal a holodd a gynhaliwyd digon o ymchwiliadau pan aeth i Ysbyty’r Tywysog Siarl (“yr Ysbyty Cyntaf”) ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg (“yr Ail Ysbyty”) rhwng 17 Mai ac 12 Gorffennaf 2021.
Yn gyffredinol, roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod Mrs A wedi cael ei thrin yn briodol gan y Ffisiotherapydd wrth iddi gyflwyno ei symptomau. Er bod yr Ombwdsmon wedi nodi meysydd lle gallai’r cyfathrebu fod wedi bod yn fwy effeithiol nag yr oedd, roedd penderfyniad y Ffisiotherapydd nad oedd angen ymchwilio ymhellach i Mrs A ac nad oedd angen sgan MRI brys arni yn gywir. Pan aeth Mrs A i glinig orthopedig brys ar 17 Mai, nid oedd ganddi unrhyw symptomau a fyddai wedi peri pryder clinigol brys. Wrth adolygu presenoldeb Mrs A yn yr Adran Achosion Brys, canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon nad oedd unrhyw bryderon clinigol a fyddai wedi arwain at yr angen am sgan MRI brys. O ran presenoldeb Mrs A yn yr ysbyty rhwng 17 Mai ac 12 Gorffennaf, ar sail ei symptomau clinigol a’i chyflwyniad, roedd y dystiolaeth yn dangos bod digon o ymchwiliadau wedi cael eu cynnal. Ni gadarnhawyd cwynion Mrs A.