Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth glinigol tu allan i Ysbyty; Deintydd

Cyfeirnod Achos

202304436

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mr C am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”). Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr C rhwng 17 Mai a 27 Medi 2022 gan Dîm Llawdriniaeth y Geg, y Genau a’r Wyneb y Bwrdd Iechyd yn briodol, ac a gafodd ddiagnosis cywir.
Canfu’r ymchwiliad fod y gofal a’r driniaeth a gafodd Mr C gan Dîm Llawdriniaeth y Geg, y Genau a’r Wyneb y Bwrdd Iechyd rhwng 17 Mai a 27 Medi yn briodol ac yn rhesymol, a bod y diagnosis a roddwyd i Mr C hefyd yn briodol.
Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.