Dyddiad yr Adroddiad

29/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202307597

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a ddarparwyd i’w wraig, Mrs A, ar gyfer poen parhaus yn y pen a’r gwddf. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a ddylai niwralgia’r gwegil Mrs A (cyflwr lle mae’r nerfau sy’n rhedeg drwy’r pen wedi’u hanafu neu’n llidiog) fod wedi cael eu nodi a’i drin wedi iddi ddod i’r ysbyty yn 2018 a 2020. Roedd yr ymchwiliad hefyd wedi ystyried a fyddai wedi bod yn briodol cynnig blociau nerfau i Mrs A ym mis Medi 2021.

Canfu’r ymchwiliad fod Mrs A wedi cael asesiad ac ymchwiliad priodol pan aeth i’r ysbyty yn 2018, a bod y diagnosis a wnaed ar y pryd yn rhesymol. Canfu hefyd, er bod oedi cyn i Mrs A gael blociau nerfau, o ystyried cymhlethdod ei chyflwr a’i hymateb i driniaeth, nad oedd hyn yn debygol o fod wedi cael effaith sylweddol ar y canlyniad yn y pen draw. Ni chafodd y rhannau hyn o gŵyn Mr A eu cadarnhau. O ran presenoldeb Mrs A yn yr ysbyty yn 2020, canfu’r ymchwiliad fod cyfleoedd wedi’u colli i ganfod bod Mrs A yn dioddef o niwralgia’r gwegil. Cafodd y rhan hon o gŵyn Mrs A ei chadarnhau.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr a Mrs A am fethu â nodi niwralgia’r gwegil Mrs A pan aeth i’r ysbyty yn 2020. Cytunwyd y dylid cynnig taliad o £1,500 i Mr A i gydnabod y methiant hwn ac i sicrhau bod y clinigwyr a fu’n trin Mrs A ar yr achlysur hwn yn gyfarwydd â symptomau niwralgia’r gwegil a’i reolaeth.