Cwynodd Mrs C am y gofal a ddarparwyd i’w mab 2 wythnos oed, A, gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ar 21 Ionawr 2023. Yn anffodus iawn, bu A farw ar 24 Ionawr.
Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y clinigwyr yn Adran Achosion Brys i Blant Ysbyty Treforys:
a) Wedi ymchwilio’n briodol i symptomau A a’u hasesu cyn ei ryddhau;
b) Wedi cael cyngor priodol ynghylch pa arwyddion i chwilio amdanynt a allai awgrymu bod angen cyrchu rhagor o sylw meddygol i A;
Canfu’r ymchwiliad fod yr asesiadau a’r ymchwiliadau i symptomau A gan glinigwyr yn yr Adran Achosion Brys yn briodol. Canfu hefyd fod cyngor priodol wedi cael ei ddarparu pan gafodd ei ryddhau o’r Adran Achosion Brys. Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r cwynion.