Dyddiad yr Adroddiad

24/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Lleithder a llwydni

Cyfeirnod Achos

202309904

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs D fod ei landlord, Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”), wedi oedi cyn ymateb i’w hadroddiadau ynghylch llwydni ac atgyweiriadau i wal gefn. Roedd ymchwiliad yr Ombwdsmon yn ystyried a oedd y Cyngor wedi ymateb i adroddiad Mrs D o lwydni (a’r gwaith atgyweirio cysylltiedig), ac wedi mynd i’r afael â’r achosion sylfaenol, yn briodol ac yn brydlon.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn. Ni wnaeth y Cyngor gydymffurfio â’i amserlenni ei hun ar gyfer cwblhau’r archwiliad na’r atgyweiriadau arferol a nodwyd; cymerodd ormod o amser i gywiro’r materion hyn a achosodd niwed ac anhwylustod i Mrs D. Roedd cyfathrebu’r Cyngor â Mrs D yn is-safonol, gan ei gwneud yn ofynnol iddi fynd ar drywydd diweddariadau ar yr atgyweiriadau a gofyn am ymyrraeth gan swyddfa’r Ombwdsmon ddwywaith er mwyn cael ymateb a bwrw ymlaen â’r gwaith atgyweirio. Derbyniodd y Cyngor fod ganddo ôl-groniad o waith atgyweirio ar hyn o bryd, ac roedd yn mynd i’r afael â hyn. Yn ogystal, derbyniodd y Cyngor bod angen gwella ei brosesau mewnol a chyfathrebu â thenantiaid, ac ar hyn o bryd roedd yn adolygu ei brosesau atgyweirio.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor ddarparu ymddiheuriad ysgrifenedig i Mrs D a thaliad iawndal o £300 am ei hamser a’i thrafferth ychwanegol wrth orfod mynd ar drywydd ei chŵyn i’r Ombwdsmon ar ddau achlysur. Cytunodd y Cyngor hefyd i gwblhau’r adolygiad o’i brosesau atgyweirio mewnol, o fewn 4 mis, er mwyn sicrhau bod ei systemau’n addas i’r diben a darparu copi ohono, ac unrhyw gynllun gweithredu dilynol, i’r Ombwdsmon.