Cwynodd Mr X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu ag ymateb i’w gŵyn ac, yn lle hynny, trefnwyd cyfarfod ag ef heb roi rhagor o fanylion iddo.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi ceisio trefnu cyfarfod gyda Mr X. Fodd bynnag, oherwydd salwch staff ac anawsterau wrth drefnu amser oedd yn gyfleus i bawb, nid oedd cwyn Mr X wedi’i datrys, ac fe wnaeth hynny achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol iddo. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymateb yn ffurfiol i gŵyn Mr X, o fewn 4 wythnos, ac i anfon ymddiheuriad ac esboniad ysgrifenedig ato am yr oedi cyn ymateb i’r gŵyn.