Dywedodd Mr Y fod Practis Meddyg Teulu, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (“y Practis”), wedi colli llythyr gan Optegydd ei ddiweddar fam yn ei hatgyfeirio ar gyfer ymchwiliadau pellach.
Cadarnhaodd y Practis ei fod wedi derbyn y llythyr, ond ni wnaeth egluro pam y bu oedi o 3 mis cyn cymryd unrhyw gamau. Roedd hyn yn fethiant gwasanaeth ar ran y Practis wrth ymdrin â gohebiaeth. Gan na roddwyd sylw llawn i’r mater yn yr ymateb i gŵyn Mr Y, nid oedd yn glir beth oedd yr amgylchiadau a achosodd y methiant hwn. Ni ellir gwybod beth oedd effaith hyn ar fam Mr Y, sy’n anghyfiawnder iddo, gan y bydd yn cael ei adael gydag ansicrwydd parhaol am hyn.
Cytunodd y Practis, o fewn 1 mis, y byddai’n ymddiheuro i Mr Y am beidio â gweithredu’n fwy prydlon ar atgyfeiriad yr Optegydd a’r ansicrwydd a achoswyd gan hyn. Cytunodd hefyd, o fewn 2 fis, i ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at beidio â gweithredu ar yr atgyfeiriad a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i atal hyn rhag digwydd eto. Cytunodd y byddai unrhyw gamau gweithredu arfaethedig yn cael eu rhannu â’r Ombwdsmon.