Cwynodd Miss W fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’w chŵyn ynghylch ei thriniaeth ôl-ofal ar ôl llawdriniaeth.
Canfu’r Ombwdsmon fod Miss W wedi cwyno wrth y Bwrdd Iechyd ond na chafodd ymateb o fewn cyfnod amser rhesymol. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Miss W, cynnig iawndal iddi o £50 mewn cydnabyddiaeth o’r oedi, a chyhoeddi ymateb i’w chŵyn o fewn 4 wythnos.