Cwynodd Mrs A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei gŵr. Yn benodol, dywedodd fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i’w holl bryderon ynghylch ei driniaeth a’i ryddhad.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi darparu ymateb i gŵyn Mrs A. Wrth wneud ei chŵyn i’r Ombwdsmon, nodwyd bod Mrs A wedi codi cwestiynau nad oedd wedi’u codi o’r blaen yn ei chŵyn gychwynnol i’r Bwrdd Iechyd. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle i ymateb i holl bryderon Mrs A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor y byddai, o fewn chwe wythnos, yn ysgrifennu llythyr at Mrs A yn ymateb i’r cwestiynau sydd heb eu hateb.