Cwynodd Mr A ei fod wedi cael ei orfodi i gymryd benthyciad i gael llawdriniaeth breifat er mwyn cael pen-glin newydd, ar ôl cael gwybod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (‘y Bwrdd Iechyd’) bod cyfnod aros o 2-3 blynedd, ac nad oedd y flaenoriaeth dan delerau Cyfamod y Lluoedd Arfog yn berthnasol. Mae Mr A yn nodi ei fod wedi cwyno’n wreiddiol ym mis Tachwedd 2023, ac nad yw wedi cael ymateb eto.
Cydnabyddodd yr Ombwdsmon y bu oedi sylweddol cyn i’r Bwrdd Iechyd ddarparu ymateb llawn.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n rhoi ymateb llawn i bryderon Mr A o fewn 1 mis.