Cwynodd Ms C fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn, a wnaeth hi ym mis Mai 2023.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi rhoi diweddariadau, nid oedd wedi rhoi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth i Ms C. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai’n ymateb i gŵyn Ms C o fewn 3 mis, gan gynnwys ymddiheuriad am y methiannau a nodwyd, ac i gynnig iawndal o £250 i Ms C am yr amser a’r drafferth o wneud cwyn i’r Ombwdsmon.