Dyddiad yr Adroddiad

23/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202403330

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Bwrdd Iechyd”) wedi methu â rhoi sylw i’w phryderon am ei rôl fel y comisiynydd gwasanaethau iechyd a ddarparwyd iddi gan ei phractis meddyg teulu (“y Practis”) ac Ymddiriedolaeth GIG yn Lloegr (“yr Ymddiriedolaeth”). Yn benodol, cwynodd, yn dilyn cyfathrebu gwael rhwng y Practis a’r Ymddiriedolaeth ynghylch ei hangen am dawelyddion cyn sgan delweddu, fod yn rhaid canslo’r sgan cyntaf ar fyr rybudd. Dywedodd, o ganlyniad i’r dull a fabwysiadwyd gan y Practis a’r Ymddiriedolaeth, ei bod wedi cael ei gorfodi i wneud taith gron 50 milltir i gasglu tawelyddion cyn y sgan a aildrefnwyd.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi mynd i’r afael â chwestiynau allweddol a godwyd gan Ms A, gan gynnwys a oedd yn fodlon bod polisïau’r Practis a’r Ymddiriedolaeth ynghylch rhagnodi tawelyddion i gleifion yn sefyllfa Ms A yn rhesymol.
Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Bwrdd Iechyd i gyflawni nifer o gamau gweithredu, o fewn 8 wythnos, gan gynnwys cyhoeddi ymateb pellach i gŵyn Ms A, ymddiheuro iddi am y methiant i ymateb yn llawn i’r gŵyn yn flaenorol, a chynnig taliad o £350 iddi mewn perthynas ag amser a thrafferth.