Dyddiad yr Adroddiad

14/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202403533

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”) wedi ymateb yn llawn i’w bryderon ynghylch rheoli ei ofal a’i driniaeth barhaus ac oedi mewn perthynas â thriniaeth lawfeddygol.

Daeth asesiad yr Ombwdsmon i’r casgliad nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi gwybodaeth i Mr X ynghylch rheoli ei ofal a’i driniaeth barhaus, gan gynnwys statws atgyfeiriad. Ar ben hynny, nid oedd Mr X wedi cael ymateb llawn i’w gŵyn.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd, o fewn 4 wythnos, i ddarparu ymateb llawn i’r gŵyn a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Mr X am statws yr atgyfeiriad, gan gynnwys cadarnhad o’r cyfrifoldeb presennol dros ei ofal.