Dyddiad yr Adroddiad

24/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403645

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A wrth yr Ombwdsmon am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar dad gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys (“y Bwrdd Iechyd”).

Canfu’r Ombwdsmon fod penderfyniad y Bwrdd Iechyd ynghylch pa ysbyty cymunedol i symud ei thad iddo yn rhesymol ac wedi’i wneud ar sail argaeledd ac addasrwydd ar y pryd. Fodd bynnag, canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i bryder Ms A nad oedd y teulu’n ymwybodol o ddiagnosis o ganser y pancreas a dementia ei thad.

Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Ms A ac i ddarparu ymateb i’w gŵyn cyn pen 3 wythnos.