Dyddiad yr Adroddiad

07/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202403660

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”), pan aeth i’r Adran Achosion Brys ym mis Medi 2023 gyda phoen yng ngwaelod y cefn a phoen pan fyddai’n gwneud dŵr. Dywedodd ei bod wedi mynd ymlaen i gael diagnosis o systiau ar ei hofarïau, ym mis Ionawr 2024, a oedd angen llawdriniaeth frys.

Penderfynodd yr Ombwdsmon fod yr ymateb i’r gŵyn gan y Bwrdd Iechyd yn cyfeirio at wybodaeth anghywir ynghylch pa fathau o systiau oedd gan Ms A. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd y byddai, o fewn chwe wythnos, yn anfon ymateb ysgrifenedig pellach at Ms A yn cyfeirio at yr wybodaeth gywir.