Cwynodd Mr X na wnaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ymateb i’w gŵyn ynghylch hawl tramwy cyhoeddus sydd wedi’i rwystro a mater cynllunio.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi ymateb i gŵyn Mr X, ei fod wedi methu â darparu ymateb clir ynghylch pa gamau y gellir eu cymryd neu na ellir eu cymryd. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gyhoeddi, o fewn 3 wythnos, ymateb i’r gŵyn yn cadarnhau pa gamau y mae wedi’u cymryd, beth sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, y camau y mae’n cael ei eithrio rhag eu cymryd, a phwy sy’n gyfrifol am yr hawl tramwy cyhoeddus a’r mater cynllunio. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i Mr X am gynnydd y gwahanol brosesau a sut y gall gyfrannu atynt.