Dyddiad yr Adroddiad

08/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Rheoli Plâu

Cyfeirnod Achos

202403834

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd y Cyngor wedi cwblhau’r ymchwiliadau a’r camau angenrheidiol i ddatrys problemau gydag eiddo cyfagos a oedd yn effeithio arni. Roedd hyn yn cynnwys y gofyniad i gael mynediad i’r eiddo hwn i glirio’r ardd a chael gwared ar fermin.

Canfu asesiad yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi cwblhau camau gweithredu i ddatrys pryderon am ordyfiant a fermin yn yr ardd. Yn ogystal, nid oedd Ms A wedi cael ymateb llawn i’w chŵyn, nid oedd y Cyngor wedi cymryd camau priodol i ddatrys y pryderon nac wedi ymateb yn llawn i gŵyn Ms A.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i gymryd y camau canlynol fel dewis arall yn lle cynnal ymchwiliad ffurfiol:

• Darparu ymateb ffurfiol i’r gŵyn, gan gynnwys canlyniad yr ymchwiliadau, a chadarnhad o unrhyw gamau y bydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r pryderon. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn o fewn 3 wythnos.

• Cwblhau’r camau angenrheidiol i glirio’r ardd a chael gwared ar fermin. Cytunodd y Cyngor i wneud hyn o fewn 6 wythnos.