Cwynodd Miss H fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi methu â darparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i gŵyn a godwyd ganddi am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn dilyn gwrthdrawiad traffig ar y ffordd. Cwynodd hefyd nad oedd wedi derbyn canlyniadau sgan MRI.
Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi cau’r gŵyn heb gyhoeddi ymateb ysgrifenedig ffurfiol a bod ei system wedi methu ag anfon canlyniadau’r sgan MRI yn awtomatig at Feddyg Teulu Miss H. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd ychwanegol i Miss H a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ailagor y gŵyn ac anfon ymateb ysgrifenedig at Miss H i ymddiheuro am yr oedi wrth gyhoeddi’r canlyniadau MRI ac i egluro beth aeth o’i le. Cytunodd hefyd i gynnig iawndal ariannol o £50.