Cwynodd Miss A nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam wedi gwneud gwaith atgyweirio a gytunwyd ym mis Tachwedd 2023. Roedd y Cyngor hefyd wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn bellach, a wnaed ym mis Awst 2024.
Canfu’r Ombwdsmon fod Miss A wedi cwyno’n flaenorol i’r Ombwdsmon ym mis Medi 2023. Er bod y Cyngor wedi darparu ymateb i’r gŵyn ym mis Tachwedd 2023, nid oedd y gwaith a nodir yn y llythyr hwnnw wedi cael ei gyflawni’n llawn. Roedd y Cyngor hefyd wedi methu â chyhoeddi ymateb i’w chŵyn bellach. Roedd methiant y Cyngor i gyflawni gwaith y cytunwyd arno yn brydlon wedi peri anhwylustod i Miss A. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i roi ymddiheuriad ysgrifenedig i Miss A am y methiant a / neu’r oedi cyn gwneud gwaith atgyweirio y cytunwyd arno’n flaenorol ym mis Tachwedd 2023, ymateb i’w chŵyn bellach ac ymddiheuriad ysgrifenedig am yr oedi cyn darparu ymateb i’w chŵyn. Cytunodd y Cyngor hefyd i roi amserlen fanwl i Miss A o unrhyw waith sydd i’w wneud o ganlyniad i’w chwynion.