Cwynodd Ms A am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei thad diweddar gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”).
Canfu’r Ombwdsmon fod ymateb y Bwrdd Iechyd i gŵyn Mrs A yn fanwl a’i fod yn cydnabod ei fethiannau. Fodd bynnag, ni allai’r Bwrdd Iechyd ddod o hyd i recordiad sain o gyfarfod dilynol a gynhaliwyd gyda Mrs A. O ganlyniad, ni allai’r Ombwdsmon benderfynu a oedd Mrs A wedi codi pryderon yn y cyfarfod ynghylch fertebrâu toredig ei gŵr, a ddarganfuwyd ar ôl derbyn ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mrs A am fethu â dod o hyd i recordiad sain y cyfarfod ac i gysylltu â Mrs A i sefydlu ffordd ymlaen wrth ymateb i’w phryderon ychwanegol am fertebrâu ei gŵr, o fewn 4 wythnos.