Dyddiad yr Adroddiad

25/10/2024

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Atgyweiriadau a chynnal a chadw (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau ac addasiadau e.e. gwres canolog. gwydr dwbl)

Cyfeirnod Achos

202404251

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms K am sut y gwnaeth Cymdeithas Tai Hafod ymdrin â gollyngiad yn ei hystafell ymolchi. Yn benodol, dywedodd Ms K ei bod wedi cael neges e-bost gan y Gymdeithas Dai yn dweud bod y gollyngiad wedi cael ei achosi am nad oedd llawr yr ystafell ymolchi wedi cael ei selio. Dywedwyd wrthi’n ddiweddarach mai’r achos gwirioneddol oedd seliau aflwyddiannus ar ddrws caeedig y gawod a gostyngiad yn lefel llawr yr ystafell ymolchi.

Er bod yr Ombwdsmon yn fodlon bod y Gymdeithas Dai wedi cymryd camau priodol i ymchwilio ac atgyweirio’r problemau a achoswyd gan y drysau a llawr diffygiol y gawod, roedd hi’n bryderus ynghylch sut roedd y Gymdeithas Dai wedi cyfleu ei chanfyddiadau a’r gwaith adfer a oedd yn ofynnol i Ms K. Roedd hyn wedi achosi trallod a rhwystredigaeth i Ms K.

Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Gymdeithas Dai i gymryd nifer o gamau o fewn 20 diwrnod calendr, gan gynnwys rhoi esboniad ac ymddiheuriad i Ms K am yr wybodaeth anghywir a ddarparwyd a’r oedi wrth gydnabod bod problem gyda llawr yr ystafell ymolchi, a chynnig taliad o £200 iddi i gydnabod y straen a’r anhwylustod a achoswyd.