Cwynodd Mr M nad oedd y Practis wedi ymateb i’w gwynion am y gofal a’r driniaeth wael a roddwyd iddo.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Practis wedi ymateb i un o’r cwynion, ond bod methiant wedi bod i ymateb i’r ail gŵyn ac roedd hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Mr M. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Practis i ymddiheuro i Mr M ac i ddarparu ymateb i’w gŵyn cyn pen 3 wythnos.