Dyddiad yr Adroddiad

24/10/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Gweithdrefnau apwyntiad (gan gynnwys cleifion allanol)

Cyfeirnod Achos

202404527

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am y gofal a’r driniaeth a gafodd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (“y Bwrdd Iechyd”). Dywedodd, er iddo fynd i’r ysbyty i gael triniaeth wedi’i chynllunio, na ddigwyddodd hynny. Dywedodd Mr A fod ei gyflwr wedi dirywio ac mae’n achosi anghysur a phoen iddo. Yn ogystal, cwynodd Mr A nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi ymateb yn llawn i’w gŵyn.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi rhoi ymateb Gweithio i Wella llawn i Mr A am ei gŵyn, ac nad oedd wedi ymateb i’w ohebiaeth ddilynol. Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Bwrdd Iechyd, ac fe gytunwyd i setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro i Mr A am yr oedi wrth ymateb i’w gŵyn, cynnig iawndal o £50 iddo, a chyhoeddi ymateb Gweithio i Wella ffurfiol i’w gŵyn o fewn 4 wythnos.