Dyddiad yr Adroddiad

17/12/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Iechyd

Cyfeirnod Achos

202404725

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi methu â darparu ymateb i’w chŵyn, a anfonwyd ym mis Tachwedd 2023.

Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Bwrdd Iechyd wedi cysylltu â Mrs X yn rheolaidd, nid oedd wedi ymateb i’r gŵyn. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi rhwystredigaeth i Mrs X a phenderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ysgrifennu at Mrs X i ymddiheuro ac esbonio am yr oedi, ac i ymateb i’r gŵyn o fewn pedair wythnos.