Dyddiad yr Adroddiad

22/10/2024

Achos yn Erbyn

Cyngor Castell-nedd Port Talbot

Pwnc

Arall

Cyfeirnod Achos

202405096

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr S fod Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi methu ag ymateb i gŵyn ynghylch digwyddiad difrifol a ddigwyddodd yn 2012.

Canfu’r Ombwdsmon y bu ymchwiliadau parhaus, gan gynnwys achosion llys troseddol, a oedd yn atal y Cyngor rhag ystyried y gŵyn dan ei broses gwyno ffurfiol yn gynharach. Daeth yr achosion llys i ben ym mis Mehefin 2024 a dechreuodd y Cyngor ar ei broses gwyno ffurfiol. Bu oedi pellach gyda’r gŵyn gan fod rhaid i’r Cyngor gysylltu â’r Llysoedd a’r heddlu. Achosodd hyn ansicrwydd a rhwystredigaeth ychwanegol i Mr S.

Ceisiodd, a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i geisio cwblhau ei ymchwiliad o fewn 8 wythnos. Os nad oes modd cwblhau’r ymchwiliad erbyn hynny, cytunodd y Cyngor hefyd i ysgrifennu at Mr S gydag esboniad ystyrlon.