Cwynodd Ms A fod ei thad wedi aros dros 3 awr am ambiwlans i’w drosglwyddo ar ôl amheuaeth o strôc. Cafodd yr alwad ei chategoreiddio fel ‘Amber 1’ (yr ail flaenoriaeth uchaf). Dywedodd fod ymchwiliad yr Ymddiriedolaeth wedi canfod gwall posibl wrth brosesu’r alwad frys.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod cwyn Ms A wedi cael ei hymchwilio yn unol â phroses gwyno Rheoliadau Gweithio i Wella, nad oedd yr Ymddiriedolaeth wedi ystyried y mater o niwed (atebolrwydd cymwys) fel sy’n ofynnol gan Gweithio i Wella.
Cytunodd yr Ymddiriedolaeth i wneud y canlynol fel datrysiad / setliad cynnar:
• ymddiheuro i Ms A am y diffygion yn ei phroses ymdrin â chwynion; yn ogystal â darparu ymateb i gŵyn Gweithio i Wella a oedd yn mynd i’r afael ag atebolrwydd cymwys ac, yn y cyfamser, rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r teulu am y cynnydd.