Cwynodd Ms X fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi methu ag ymateb i’w chŵyn, a gyflwynwyd iddo ym mis Chwefror 2024 mewn perthynas â gofal ei modryb.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb i gŵyn Ms X yn unol â’i broses gwyno fewnol. Dywedodd yr Ombwdsmon fod hynny wedi achosi ansicrwydd, rhwystredigaeth ac anghyfleustra i Ms X. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.
Ceisiodd, a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymddiheuro am yr oedi, esbonio’r rhesymau am yr oedi, ac i gyhoeddi ymateb i’r gŵyn, a hynny o fewn 6 wythnos i benderfyniad yr Ombwdsmon.