Dyddiad yr Adroddiad

28/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202307594

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss C ar ran ei mab, B, am y driniaeth a gafodd ar gyfer anhwylder gorfodaeth obsesiynol (“OCD” – cyflwr iechyd meddwl lle mae gan berson feddyliau obsesiynol ac ymddygiad cymhellol). Roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd y penderfyniad i beidio â rhagnodi meddyginiaeth i B i drin ei OCD ym mis Medi 2022, yn briodol yn glinigol.
Canfu’r ymchwiliad fod y penderfyniad i beidio â rhagnodi meddyginiaeth i B yn unol â’r canllawiau perthnasol, ac felly’n briodol yn glinigol. Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn hon.