Dyddiad yr Adroddiad

04/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Pwnc

Triniaeth Glinigol mewn Ysbyty

Cyfeirnod Achos

202308446

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs B am y gofal a’r driniaeth a gafodd ei diweddar fam, Mrs A, gan y Bwrdd Iechyd pan gafodd ei derbyn i Ysbyty Athrofaol y Faenor (“yr Ysbyty”) rhwng 28 Ionawr a 3 Chwefror 2023. Yn benodol, roedd yr ymchwiliad yn ystyried a oedd darparu gwrthfiotigau mewnwythiennol (mewn i wythïen) i Mrs A ar 30 Ionawr yn briodol ac yn amserol.
Canfu’r ymchwiliad nad oedd Mrs A wedi cael gofal a thriniaeth resymol gan y Bwrdd Iechyd oherwydd, er bod darparu gwrthfiotigau mewnwythiennol i Mrs A ar 30 Ionawr 2023 yn briodol, nid oedd yn amserol gan y dylent fod wedi cael eu rhagnodi’n gynharach ar 29 Ionawr. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad nad oedd Mrs A wedi dioddef anghyfiawnder o ganlyniad i’r methiant oherwydd ei bod yn annhebygol y byddai darparu gwrthfiotigau mewnwythiennol yn gynharach wedi effeithio ar ei chanlyniad trist. Ni chadarnhawyd cwyn Mrs B.