Cwynodd Mrs A, ar ôl iddi gofrestru, nad oedd y Practis wedi cymryd camau priodol i gyrchu ei chofnodion clinigol. Dywedodd Mrs A fod y Practis wedi methu â mynd ar drywydd atgyfeiriad at Wasanaethau Iechyd Meddwl ac nad oedd wedi ystyried yr wybodaeth a ddarparwyd ar system gwneud cais am apwyntiad y Practis. Dywedodd Mrs A fod y Practis wedi methu ag ymchwilio ac ymateb yn ddigonol i’w chŵyn.
Ni chanfu’r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth o gamweinyddu na methiant gwasanaeth mewn perthynas â’r cofnodion clinigol. Pan gododd Mrs A bryderon am ei hatgyfeiriad at Wasanaethau Iechyd Meddwl, aeth y Practis ar drywydd y mater yn briodol gyda’r gwasanaeth. Mewn ymateb i bryderon Mrs A am y system apwyntiadau, ymddiheurodd y Practis am gysylltu â hi ar adegau pan nad oedd hi ar gael, a chymerodd gamau i ganfod sut y gellid gwella’r system. Canfu’r Ombwdsmon fod y Practis wedi ystyried cwyn Mrs A, ac wedi darparu ymateb priodol, er braidd yn gryno.
Ni wnaeth yr Ombwdsmon gadarnhau’r gŵyn.