Dyddiad yr Adroddiad

22/11/2024

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Materion rhestr glaf

Cyfeirnod Achos

202401292

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A am faterion yn ymwneud â’i arhosiad parhaus am lawdriniaeth ar ei ben-glin. Yn hytrach nag ymchwilio’n ffurfiol i gŵyn Mr A ac ymateb iddi, ceisiodd y Bwrdd Iechyd ddatrys y mater yn anffurfiol.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi datrys cwyn Mr A ac nad oedd wedi ymchwilio nac ymateb yn ffurfiol i’w bryderon ychwaith.

Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad. Cafodd gytundeb y Bwrdd Iechyd i ymchwilio ac ymateb yn ffurfiol i bryderon Mr A o dan y trefniadau Gweithio i Wella, ymddiheuro am fethu â chynnig gwneud hynny cyn nawr, a chynnig taliad amser a thrafferth o £125 iddo. Cytunodd y Bwrdd Iechyd i roi’r camau hyn ar waith cyn pen 30 diwrnod gwaith.